Address Line 1
 Address Line 2
 Address Line 3
 Address Line 4
 Address Line 5

 

Dyddiad | Date: 21 Chwefror 2018

Pwnc | Subject: Bil Awtistiaeth (Cymru)

Annwyl Gyfaill,

 

Bil Awtistiaeth (Cymru)

Yn dilyn balot a gynhaliwyd gan Lywydd y Cynulliad, cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y gallaf i gyflwyno cynigion ar gyfer cyfraith newydd yng Nghymru i wneud darpariaeth ar gyfer diwallu anghenion plant ac oedolion ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth yng Nghymru, ac i ddiogelu a hyrwyddo eu hawliau.

Y llynedd, cynhaliais ymgynghoriad a gwaith ymgysylltu cyhoeddus helaeth i'm cynorthwyo i ddatblygu fy nghynigion. Amlinellais hefyd fy mod yn bwriadu cynnal ymgynghoriad pellach ar ôl i Fil drafft gael ei baratoi.  Mae'r gwaith hwn wedi'i gwblhau ac mae'n bleser gennyf gynnwys copi o'r Bil drafft er gwybodaeth.

Rwy'n ddiolchgar i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad cychwynnol ac rwy'n falch bod mwyafrif yr ymatebion yn gefnogol i egwyddorion y ddeddfwriaeth hon.  Wrth ddrafftio'r Bil, rwyf wedi ystyried y pwyntiau a godwyd yn yr ymatebion hyn. 

Un pryder a gododd yn fy ymgynghoriad cyntaf oedd, drwy ddeddfu i ddiwallu anghenion plant ac oedolion ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth, efallai y byddwn yn ddiarwybod yn lleihau ffocws Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael ag anghenion plant ac oedolion sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol ar wahân i anhwylder sbectrwm awtistiaeth. Er mwyn lleihau'r risg hon, mae'r Bil drafft yn diffinio anhwylder sbectrwm awtistiaeth fel a ganlyn:

- anhwylder sbectrwm awtistiaeth fel y'i diffinnir yn y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau gan Sefydliad Iechyd y Byd o bryd i'w gilydd:

a hefyd

- unrhyw anhwylder niwroddatblygiadol arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru.

Mae hyn yn golygu pe bai Gweinidogion Cymru yn credu y dylai darpariaethau'r Bil hwn gael eu cymhwyso i bobl ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill, y byddai ganddynt y pŵer i wneud hynny.

Gan ddibynnu ar ganlyniad y gwaith ymgynghori pellach hwn, mae'n bosibl y bydd y Bil yn destun newidiadau drafftio a thechnegol pellach cyn imi ei gyflwyno'n ffurfiol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Ar ôl i'r Bil gael ei gyflwyno'n ffurfiol, byddaf hefyd yn cyhoeddi Memorandwm Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol i gefnogi'r broses graffu fanwl sy'n ofynnol cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylai ddod yn gyfraith.

Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech gymryd rhywfaint o amser i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn, ac imi gael gwybod eich barn chi, neu farn eich sefydliad, ar y Bil a'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni.  Mae'r Bil drafft wedi cael ei gyhoeddi ar wefan y Cynulliad hefyd i ganiatáu i gynifer o bobl â phosibl gyflwyno eu sylwadau.

Byddwn yn croesawu sylwadau ar bob agwedd ar y Bil drafft. Fodd bynnag, mae nifer o faterion penodol y byddwn yn croesawu sylwadau arnynt. Am fanylion llawn ynghylch sut y defnyddir y wybodaeth a ddarperir gennych, gweler bolisi preifatrwydd Bil Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Diffiniad o Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth

Fel y nodir uchod, rwyf wedi cynnwys ar wyneb y Bil drafft yn adran 7 (1) gyfeiriad at y diffiniad o ‘anhwylder sbectrwm awtistiaeth’ yn y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO ICD -11[1]).  Mae hyn yn golygu pe bai diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd o anhwylder sbectrwm awtistig yn newid yn y dyfodol, byddai diffiniad y Bil yn newid yn awtomatig hefyd.

Byddai'r diffiniad hwn yn berthnasol drwyddo draw yn y Bil ond byddai gan Weinidogion Cymru hefyd y pŵer i gynnwys anhwylderau nirwoddatblygiadol eraill (hynny yw, anhwylderau niwroddatblygiadol eraill ar wahân i anhwylder sbectrwm awtistiaeth).

Cwestiynau

01.   A ydych yn cytuno y dylai diffiniad o anhwylder sbectrwm awtistig ymddangos ar wyneb y Bil?

02.   A ydych yn cytuno mai defnyddio diffiniad WHO ICD-11 yn y Bil drafft, ynghyd â'r pŵer i Weinidogion Cymru gynnwys anhwylderau niwroddatblygiadol eraill, yw'r dull cywir?

Amrediad y cyrff sydd â swyddogaethau o dan y Bil

Byddwn yn croesawu sylwadau ar p'un ai yw amrediad y cyrff a fyddai â swyddogaethau yr effeithir arnynt gan y Bil drafft yn briodol.  Mae'r Bil drafft yn cyfeirio at "gyrff perthnasol" sydd â dyletswyddau i weithredu'r strategaeth awtistiaeth. Diffinnir y cyrff perthnasol yn adran 7 fel awdurdodau lleol a chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ond rhoddir pŵer i Weinidogion Cymru gynnwys cyrff eraill o fewn y diffiniad. Dylid nodi bod y diffiniad o ‘gorff y GIG’ yn adran 7 yn cynnwys nifer o gyrff gwahanol sy’n darparu gwasanaethau iechyd.

Cwestiynau

03.   Ai'r "cyrff perthnasol" yn adran 7 y Bil drafft yw'r cyrff priodol i weithredu'r strategaeth awtistiaeth?

Dyletswydd i roi sylw i'r strategaeth awtistiaeth a'r canllawiau perthynol

Mae Adran 4 y Bil drafft yn nodi bod yn rhaid i gyrff perthnasol roi sylw i'r strategaeth awtistiaeth a'r canllawiau perthynol wrth arfer eu swyddogaethau. 

Byddwn yn croesawu barn ynghylch a ddylid atgyfnerthu'r ddarpariaeth hon yn y Bil drafft trwy ddarparu pŵer cyfarwyddo i Weinidogion Cymru dros gyrff perthnasol. Mae pŵer cyfarwyddo yn golygu y gall Gweinidog ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol wneud rhywbeth. Dim ond os bydd popeth arall wedi methu yr arferir y pŵer hwn fel arfer, a hynny os oedd yn glir i'r Gweinidog na fyddai’r camau gofynnol yn cael eu cymryd fel arall. Mae hwn yn bŵer sylweddol i’w roi i Weinidogion Cymru ac nid yw’n cael ei gynnwys yn y ddeddfwriaeth fel mater o drefn. Eisoes mae gan Weinidogion Cymru nifer o bwerau cyfarwyddo, o dan, er enghraifft, Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), felly dim ond os yr ymddengys fod diffyg yn y pwerau presennol y byddai angen pŵer cyfarwyddo pellach.

Cwestiwn

04.   A ddylid atgyfnerthu'r ddyletswydd ar gyrff perthnasol i ystyried y strategaeth awtistiaeth a'r canllawiau perthynol trwy roi pŵer cyfarwyddyd i Weinidogion Cymru dros gyrff perthnasol?

Terfynau amser yn y Bil drafft

Byddwn hefyd yn croesawu barn ar p'un ai yw'r terfynau amser a nodir yn y Bil drafft yn briodol, gan gynnwys y canlynol:

mae adran 1(4) o'r Bil drafft yn nodi “rhaid i'r strategaeth awtistiaeth...gael ei chyhoeddi heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl y diwrnod y daw'r Ddeddf hon i rym.”

Mae Adran 3(2) yn nodi “Rhaid i'r canllawiau gael eu dyroddi o dan yr adran hon heb fod yn hwyrach na 3 mis ar ôl cyhoeddi'r strategaeth awtistiaeth.”

Mae Adran 9 yn nodi “Daw'r Ddeddf hon i rym ar ddiwedd y cyfnod o 3 mis yn dechrau ar y diwrnod y caiff ei phasio.”

Cwestiynau

05.   Oes gennych unrhyw sylwadau am yr amser a nodir yn adran 1(4)o'r Bil drafft ar gyfer cyhoeddi'r Strategaeth Awtistiaeth?

06.   Oes gennych unrhyw sylwadau am yr amser a nodir yn adran 3(2) ar gyfer cyhoeddi canllawiau o dan y Bil?

07.   Oes gennych unrhyw sylwadau am yr amser a nodir yn adran 9 ar gyfer pryd y daw'r Ddeddf i rym?

Terfynau amser ar gyfer diagnosis ac asesu anghenion

Mae'r Bil drafft yn nodi yn adran 2(1)(c) bod rhaid i'r Strategaeth Awtistiaeth ddarparu ar gyfer cwblhau diagnosis personau cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ac o leiaf o fewn y terfynau amser a nodir yn y canllawiau perthnasol a ddyroddir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae hyn yn golygu, os bydd newid i'r terfynau amser a argymhellir yn y canllawiau perthnasol a ddyroddir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, y byddai'r terfyn amser uchaf ar gyfer diagnosis fel y darperir ar ei gyfer yn y Strategaeth Awtistiaeth hefyd yn newid. Byddwn yn ddiolchgar am sylwadau ynghylch a yw hyn yn briodol.

Mae'r Bil drafft hefyd yn nodi yn adran 2(1)(e) yr angen i “ddarparu bod asesiad o'r anghenion gofal a chymorth yn cael ei gwblhau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ac o leiaf o fewn dau fis ar ôl cael diagnosis o anhwylder sbectrwm awtistiaeth neu unrhyw gyfarfod ôl-ddiagnostig, pa un bynnag yw'r diweddaraf.” Byddwn yn ddiolchgar am sylwadau ar hyn.

Cwestiynau

08.   A ydych yn cytuno y dylid cwblhau'r diagnosis o fewn y terfynau amser yn y canllawiau perthnasol a ddyroddir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, fel y nodir yn adran 2(1)(c) o'r Bil drafft?

09.   A ydych yn cytuno y dylid cwblhau asesiad o anghenion gofal a chymorth o fewn 2 fis i gael diagnosis o anhwylder sbectrwm awtistiaeth neu unrhyw gyfarfod ôl-ddiagnostig, fel y nodir yn adran 2(1)(e)?

Tîm amlddisgyblaethol

Ar hyn o bryd mae'r Bil drafft yn nodi yn adran 3(6) fod rhaid i'r Strategaeth Awtistiaeth wneud darpariaeth ar gyfer cynnal asesiad diagnostig unigol o bersonau ag anhwyldersbectrwm awtistiaeth gan dîm amlddisgyblaethol o weithwyr proffesiynol. Mae'r Bil drafft yn nodi yn adran 3(6)(c) bod rhaid i’r canllawiau ar y strategaeth gynnwys canllawiau ynghylch y tîm asesu diagnostig amlddisgyblaethol hwn ac yn benodol, ynghylch cynnwys y canlynol—

                      i.             seicolegydd;

                    ii.             seiciatrydd;

                   iii.             therapydd lleferydd ac iaith;

                   iv.             therapydd galwedigaethol;

                     v.             therapydd ymddygiadol; a

                   vi.             gweithiwr cymdeithasol.

Byddwn yn croesawu sylwadau cyffredinol am y rhestr, ac a oes unrhyw ddisgyblaethau eraill y dylid eu rhestru fel aelodau posibl o dîm amlddisgyblaethol o'r fath.

Rhestr enghreifftiol yw’r un yn y Bil ac ni fyddai'n ofynnol cynnwys y gweithwyr proffesiynol sydd ar y rhestr ar bob achlysur y cynhelir asesiad diagnostig. Byddai angen i ganllawiau ar y Strategaeth Awtistiaeth gynnwys canllawiau ynghylch p’un a ddylid cynnwys gweithwyr proffesiynol a  restrir, a phryd y dylid eu cynnwys. Byddwn yn croesawu sylwadau ynghylch a yw'n ddefnyddiol cynnwys rhestr o aelodau'r tîm amlddisgyblaethol ar wyneb y Bil, neu a fyddai'n well peidio cynnwys rhestr o'r fath.

Cwestiynau

10.   A ydych yn cytuno ei bod yn ddefnyddiol cynnwys rhestr yn y Bil drafft o weithwyr proffesiynol a allai ffurfio tîm amlddisgyblaethol ar gyfer gwneud asesiadau diagnostig?

11.   Os felly, a oes disgyblaethau eraill y dylid eu rhestru fel aelodau posibl o dîm amlddisgyblaethol o'r fath?

Sicrhau tegwch o ran mynediad at wasanaethau

Yn adran 2(1)(f), mae’r Bil drafft yn ceisio sicrhau na wrthodir mynediad i unigolion ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth at wasanaethau ar sail cyniferydd deallusrwydd (IQ) nag ar sail eu bod yn cael gwasanaethau ar gyfer cyflyrau meddygol eraill. Byddwn yn croesawu sylwadau ynghylch a ddylai’r Bil gyfeirio at ffactorau neu amgylchiadau eraill a allai rwystro unigolion ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn amhriodol rhag cael mynediad at wasanaethau.

Cwestiwn

12.   A oes unrhyw ffatcorau eraill neu amgylchiadau unigol a allai rwystro mynediad at wasanaethau ac y dylid eu nodi yn y Bil? 

Data ar anhwylder sbectrwm awtistiaeth

Mae'r Bil drafft yn gwneud darpariaeth yn adrannau 5 a 3(6)(d) ar gyfer casglu data gan Weinidogion Cymru i'w galluogi i gyflawni swyddogaethau o dan y Bil.  Mae'n debygol y bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am bobl ag anhwylder sbectrwm awtistig yng Nghymru, eu defnydd o wasanaethau ac ati. 

Byddwn yn croesawu sylwadau ynghylch a ddylid nodi'r mathau o ddata sydd i'w gasglu, naill ai ar wyneb y Bil neu mewn canllawiau. Gallai nodi’r math o ddata i’w gasglu helpu i sicrhau cysondeb o ran adrodd ar y data ledled Cymru, a allai yn ei dro alluogi Gweinidogion Cymru i adnabod gwahaniaethau rhanbarthol. 

Byddwn hefyd yn croesawu sylwadau ynghylch a yw'r ddarpariaeth yn adran 5(2), i ganiatáu i Weinidogion Cymru ofyn am ddata dienw gan gyrff perthnasol, yn briodol o ystyried deddfwriaeth diogelu data sy'n darparu diogelwch ynghylch y defnydd o ddata. 

Cwestiynau

13.   A ddylai'r Bil drafft nodi'r mathau o ddata sydd i'w casglu gan Weinidogion Cymru i'w galluogi i gyflawni swyddogaethau o dan y Bil?

14.   Os felly, a oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch y mathau o ddata y dylid eu casglu? Gallai enghreifftiau o fathau o ddata y gellid eu casglu gynnwys: oedran, oedran adeg diagnosis, rhywedd, ardal bwrdd Iechyd/awdurdod lleol, amser rhwng asesiad a diagnosis, proffesiwn(proffesiynau) y staff sy’n cynnal y diagnosis a’u gwasanaeth, y dull(iau) asesu diagnostig a ddefnyddiwyd, y defnydd o asesiadau wedi’u sgorio, amcangyfrif y clinigydd sy’n cynnal y diagnosis o lefel deallusrwydd[2], datblygiad o ran gallu cyfathrebu, a gynhaliwyd profion ar gyfer ffenylcetonwria (PKU).

15.   A ddylid nodi'r mathau o ddata ar wyneb y Bil neu mewn canllawiau?

16.   A ydych yn cytuno bod y ddarpariaeth yn adran 5(2) i ganiatáu i Weinidogion Cymru ofyn am ddata dienw gan gyrff perthnasol yn briodol, ac y dylid ei gynnwys ar wyneb y Bil? 

Ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth

Yn olaf, mae'r Bil drafft yn nodi (adran 6 (1)) bod rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cyhoeddi'r Strategaeth Awtistiaeth, gychwyn a chynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anghenion personau ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth. Bwriad hyn fyddai sicrhau ymgyrch barhaus i hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o anghenion pobl sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth.

Un dewis amgen fyddai i'r Bil drafft nodi bod rhaid i Weinidogion Cymru ail-lansio'r ymgyrch o leiaf bob tair blynedd. Bwriad hyn fyddai sicrhau cylch rheolaidd o ysgogiad newydd i ymgyrchu codi ymwybyddiaeth. Byddwn yn croesawu sylwadau ynghylch a ddylid cyflwyno ymgyrch i godi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o anghenion pobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn barhaus, neu ar gylch rheolaidd (tair blynedd).

Cwestiwn

A ddylid cyflwyno ymgyrch i godi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o anghenion pobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn barhaus, neu ar gylch rheolaidd (tair blynedd)?

Effaith y ddeddfwriaeth hon

Byddai o gymorth mawr pe gallech roi sylwadau ynghylch a oes unrhyw faterion, buddion neu risgiau a allai ddeillio o'r Bil drafft mewn perthynas â'r materion a restrir isod.

Cwestiynau

17.   Gan roi rhesymau dros eich ateb, a allai unrhyw un o'r cynigion yn y Bil drafft gael ei ddiwygio er mwyn cynyddu ei effeithiau cadarnhaol neu leihau ei effeithiau andwyol posibl, mewn perthynas â:

a.        ieithoedd swyddogol y Cynulliad (Cymraeg a Saesneg);

b.        cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant;

c.         y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr; neu

d.        costau a buddion i chi neu i'ch sefydliad

18.   A oes gennych unrhyw sylwadau eraill i'w gwneud ar y Bil drafft?

Terfyn amser

Rhaid i'r Bil gael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol erbyn 13 Gorffennaf 2018 ac er mwyn cyflawni hyn, dyddiad cau'r ymgynghoriad hwn yw dydd Gwener, 17 Ebrill 2018.

Sut y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio

Mae'n bosibl y caiff gwybodaeth a ddarperir gennych ei defnyddio gennyf i, gan Aelodau eraill y Cynulliad, gan staff cymorth neu gan staff Comisiwn y Cynulliad at ddibenion datblygu'r Bil, hyrwyddo'r effaith y bwriedir i'r Bil ei chael, a gwaith craffu dilynol ar y Bil.

Mae'n bosibl y caiff eich enw, eich manylion cyswllt (os ydych yn ymateb yn eich rôl broffesiynol) a'ch ymateb llawn eu cyhoeddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac o bosibl mewn cyhoeddiadau neu ddeunydd cyhoeddusrwydd sy'n dilyn. Mae'n rhaid i chi wneud yn glir yn eich ymateb os ydych am i'r wybodaeth hon fod yn ddienw.

Efallai y defnyddir eich manylion cyswllt eto os bydd cyfleoedd eraill yn codi i ymgysylltu â'r gwaith o ddatblygu'r Bil neu graffu arno. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio, cysylltwch ag: Ymgynghoriad.BilAwtistiaeth@cynulliad.cymru

I weld rhagor o wybodaeth am sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, gweler polisi preifatrwydd Bil Aelod CynulliadCenedlaethol Cymru.  Os hoffech i'ch ymateb fod yn ddienw, dylech nodi hyn yn glir.  

Rwy'n croesawu ymatebion yn Gymraeg a Saesneg. Gofynnaf i sefydliadau sydd â pholisïau neu gynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Rwyf hefyd yn cyhoeddi'r ymgynghoriad hwn yn ddwyieithog mewn fformat Hawdd ei Ddeall.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses Bil Aelod ar gael ar y dudalen Biliau Aelodau.

Edrychaf ymlaen at gael eich sylwadau a diolch ichi am eich amser.

 

 

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.



[1] https://icd.who.int/dev11/l-m/en#/http%3a%2f%2fid.who.int%2ficd%2fentity%2f437815624

[2] Er eglurder, ni ddylid defnyddio IQ neu gyflyrau meddygol eraill sy'n bodoli eisoes wrth asesu cymhwysedd ar gyfer gwasanaethau. Er enghraifft, gall person sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth hefyd fod â lefel deallusrwydd uchel iawn, a rhaid i hyn beidio â’i wneud yn anghymwys i gael gwasanaethau. Fodd bynnag, yn ymarferol, gall lefel deallusrwydd isel iawn ei gwneud yn anos i'r clinigydd asesu’n gywir a oes gan unigolyn anhwylder sbectrwm awtistiaeth. O’r herwydd, credaf fod gwerth mewn casglu data ynghylch asesiad y clinigydd sy’n cynnal y diagnosis o lefel deallusrwydd.